SL(5)152 - Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

Cefndir a Phwrpas

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016.

Mae rheoliad 2 yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/2109 sy’n diwygio Cyfarwyddeb 66/401/EEC i adlewyrchu’r newid i enw botanegol y rhywogaeth Lolium x boucheanum Kunth. Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 i adlewyrchu’r newid hwnnw i’r enw botanegol.

Mae rheoliad 3 yn gweithredu Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/320 (“y Penderfyniad”). Mae’r Penderfyniad yn diwygio Penderfyniad 2004/842/EC ynghylch y rheolau sy’n caniatáu i Aelod-wladwriaethau awdurdodi rhoi ar y farchnad hadau sy’n perthyn i amrywogaethau penodol.  Mae’r Penderfyniad yn cynnwys y gofyniad i rif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol gael ei nodi ar label swyddogol tatws had sydd wedi eu hawdurdodi i gael eu marchnata at ddibenion profion a threialon. Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 er mwyn adlewyrchu’r gofyniad hwnnw.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Mae yn ofynnol rhoi Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2016/2109 (sy’n achosi rheoliad 2) ar waith erbyn 31 Rhagfyr 2017, gyda’r ddarpariaeth i fod yn gymwys o 1 Ionawr 2018.  Daw’r Rheoliadau i rym ar 15 Rhagfyr, felly bydd y newid mewn grym o’r dyddiad hwnnw tan 31 Rhagfyr, cyfnod pan na ddylai fod yn gymwys. [Rheol Sefydlog 21.3(iv) – rhoi deddfwriaeth yr UE ar waith mewn ffordd amhriodol]

Gwnaed Penderfyniad y Comisiwn 2016/320 (sy’n achosi rheoliad 3) ar 3 Mawrth 2016 ac yr oedd yn gymwys o 1 Ebrill 2017.  Ni fydd y Rheoliadau hyn, sy’n rhoi’r Penderfyniad ar waith, yn gymwys tan 15 Rhagfyr 2017.  [Rheol Sefydlog 21.3(iv) – rhoi deddfwriaeth yr UE ar waith mewn ffordd amhriodol]

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Gall y Rheoliadau hyn barhau i fod yn weithredol wedi i’r DU adael yr UE, gan eu bod wedi’u gwneud o dan bwerau domestig yn y Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, sef cyn i Brydain ddod yn aelod o’r UE.  Mae hyn yn wir er iddynt gael eu gwneud i roi deddfwriaeth yr UE ar waith.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Tachwedd 2017